Y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl
7 Chwefror 2024
Drwy Microsoft Teams (12.30 – 13.30)
Yn bresennol:
1 |
Ken Skates |
Cadeirydd ac AS ar gyfer De Clwyd |
2 |
Simon Jones |
Mind Cymru |
3 |
Nia Sinclair |
Mind Cymru (Ysgrifenyddiaeth) |
4 |
Jenny Murphy |
Mind Cymru |
5 |
Geroge Watkins |
Mind Cymru |
6 |
Amy Bennison |
Mind Conwy |
7 |
Heather Lewis |
Y Sefydliad Iechyd Meddwl |
8 |
Richard Jones |
Mental Health Matters |
9 |
Ewan Hilton |
Platfform |
10 |
Jen Daffin |
Platfform |
11 |
Beckie Jordan |
Platfform |
12 |
Oliver Townsend |
Platfform |
13 |
Chloe Harrison |
Adferiad |
14 |
Jo Whitfield |
BEAT Eating Disorders |
15 |
Ceri Reed |
Parents Voices in Wales |
16 |
Twahida Akbar |
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) |
17 |
Lesley Richards |
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) |
18 |
Lisa Roberts |
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant |
19 |
Sarah Williamson |
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant |
20 |
Nick Wilkinson |
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant |
21 |
Lowri Wyn Jones |
Amser i Newid Cymru |
22 |
Nesta Lloyd-Jones |
Cydffederasiwn GIG Cymru |
23 |
Steve Mulligan |
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) |
24 |
Abigail Rees |
Barnardo's |
25 |
Amy Bainton |
Barnardo's |
26 |
Meg Moss |
National Counselling Society |
27 |
Lloyd Watkins |
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
28 |
Kathryn Morgan |
Shared Lives Plus |
29 |
Linda Newton |
Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a'r Fro |
|
1. Croeso a Chyflwyniadau
Croesawodd Simon Jones (SJ) bawb i’r cyfarfod. Trosglwyddodd yr awenau i Ken Skates AS i arwain y sesiwn.
Diolchodd KS i bawb am ddod. Nododd y byddai’r Prif Weinidog a’r Cabinet newydd yn eu lle cyn y cyfarfod nesaf a gwahoddodd aelodau’r Grŵp i rannu eu blaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl gyda’r ymgeiswyr yn ystod y gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth. Awgrymodd y gallai'r cyfarfod nesaf fod yn gyfle i glywed gan yr arweinydd am yr hyn y byddai eisiau ei weld yn y llywodraeth newydd. Cymeradwyodd y Grŵp yr argymhelliad hwn.
Cyflwynodd KS Nick Horn (NH), Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac arweinydd Straen Trawmatig Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a fyddai'n gwneud cyflwyniad yn y cyfarfod heddiw.
Cyn trosglwyddo i NH, nododd KS pa mor bwysig yw trafod gofal sy’n ystyriol o drawma, sy'n cydnabod bod y problemau emosiynol a seicolegol sydd gan bobl yn aml yn deillio o anafiadau y maent wedi'u cael yn sgil eu profiadau. Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ym menter Straen Trawmatig y GIG Cymru sydd â’r nod o wella mynediad at ymyriadau iechyd meddwl i bobl o bob oed y mae trawma wedi effeithio arnynt, ac ansawdd yr ymyriadau hynny.
2. Cyflwyniad Nick Horn (NH) ar ofal sy'n ystyriol o drawma
Diolchodd NH i'r Grŵp am y gwahoddiad i rannu trosolwg o'r gwaith y mae'n ei wneud gyda'i gydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi ystyr dyfnach i ofal sy’n ystyriol o drawma yng Ngogledd Cymru.
Nododd yr uchafbwyntiau allweddol a ganlyn:
- Datblygwyd ‘gofal sy’n ystyriol o drawma’ yn sgil y twf mewn tystiolaeth sy’n cysylltu trawma a phrofiadau niweidiol sy’n arwain at ganlyniadau niweidiol.
- Mae angen bod yn ofalus ynghylch ystyr gofal sy’n ystyriol o drawma a sut rydym yn ei ddiffinio - mae angen newid o ofyn i bobl “beth sy'n bod arnoch chi?” i “beth sy'n digwydd i chi?”
- Mae Cymru ar flaen y gad o ran dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar drawma – mae’r mentrau yn cynnwys Straen Trawmatig Cymru (a ariennir gan Lywodraeth Cymru), Hyb ACE Cymru a Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma.
- Mae'r dull gweithredu yng Ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar ddau amcan; i) gwella ansawdd, gallu, dewis a mynediad at dystiolaeth, a ii) cychwyn, datblygu a chefnogi dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma ym maes gofal iechyd.
o Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn ceisio gwella o ran goruchwylio ac ymgynghori, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod dull sy’n ystyriol o drawma yn fusnes i bawb. Yn eu tro, mae pobl eisiau dysgu rhagor amdano.
o Gan ganolbwyntio ar y cysyniad o adrodd straeon a chynnal digwyddiadau i ddod â phobl ynghyd o wahanol wasanaethau a chymunedau ar gyfer dull cydweithredol cydgysylltiedig.
Gallwch weld sleidiau y cyflwyniad llawn isod.
Diolchodd NH i'r Grŵp am roi o’u hamser i wrando, a gwahoddodd unrhyw gwestiynau a/neu sylwadau gan y Grŵp.
3. Trafodaeth
Nick Wilkinson (NW)– Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Gofynnodd Nick Wilkinson a oes ffigur hysbys ar gael ar gyfran y bobl ifanc neu oedolion sydd wedi cael pwl o drawma sy’n dylanwadu ar eu meddyliau, eu teimladau a’u hymddygiad. Nododd NH y bydd 95 y cant o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl oedolion wedi cael hanes o drawma, ac felly, fel rhan o unrhyw asesiad cychwynnol, dylid gofyn i bobl a allant wneud cysylltiad rhwng eu profiadau a’u problemau. Ychwanegodd NW fod rhai gweithwyr proffesiynol yn feirniadol o bobl sy'n chwilio am labeli, yn enwedig o ran plant sy'n wynebu arosiadau hir am atgyfeiriadau sy’n gysylltiedig â niwroamrywiaeth Mae gweithwyr proffesiynol yn aml eisiau symud ymlaen a thrin y symptomau.
Heather Lewis (HL) – Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Gofynnodd HL a oedd hyfforddiant cymunedol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma wedi’i ystyried mewn mannau fel grwpiau chwaraeon, lleoliadau geidiau neu sgowtiaid. Cadarnhaodd NH fod y tîm ar hyn o bryd yn cyfarfod â chymunedau a sefydliadau ac yn edrych yn fanwl ar ragor o opsiynau, ac ychwanegodd bod diddordeb mawr gan y grwpiau hyn mewn dysgu rhagor am y dull gweithredu.
Jen Daffin (JD)
Cyfeiriodd JD at ddull Platfform o ran y gwaith hwn, a'r cyfle i gyfleu neges wahanol i'r cyhoedd na ddylai salwch meddwl gael ei weld drwy lens feddygol bob amser. Awgrymodd fod rhywbeth positif ynglŷn ag ail-gydbwyso ac annog pobl i weld sut mae iechyd meddwl a thrawma yn mynd law yn llaw.
Simon Jones (SJ) - Mind Cymru
Gofynnodd SJ a allai NH roi rhyw gymaint o fewnwelediad i’r sefyllfa breseennol o ran newid ein ffordd ddiofyn o feddwl i ddull mwy gwybodus am drawma. Gofynnodd a oes rhagor y gall ein sefydliadau ei wneud i fynd i’r afael â rhai o’r heriau presennol?
Nododd NH nad oes dull unffurf y gellir ei fabwysiadu, a bod y dull a ddefnyddir yn amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Pwysleisiodd, fodd bynnag, bod angen cyffredinol i sicrhau dealltwriaeth well o daith lawn person, yn hytrach na chlywed rhannau bach o'u stori yn unig.
Lowri Wyn Jones (LWJ)- Amser i Newid Cymru
Cyfeiriodd LWJ at yr ymgyrch gwrth-stigma sef, Amser i Newid Cymru, ac ychwanegodd fod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn profi stigma yn barhaus o fewn gwasanaethau. Nododd fod stigma yn fath o drawma. Amlygodd ei hymwneud presennol â’r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sy’n gweithio i ddatblygu modiwlau ar stigma ar gyfer lleoliadau'r GIG.
Kathryn Morgan– Shared Lives Plus
Tynnodd KM sylw at waith parhaus Shared Lives Plus i ddatblygu gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n arwain at ganlyniadau rhagorol. Anogodd ragor o gydweithio, a phwysleisiodd bod angen dod yn well wrth gydnabod y gwasanaethau sydd eisoes wedi’u sefydlu.
CAM I’W GYMRYD: SJ i rannu cyflwyniad NH gyda'r Grŵp Trawsbleidiol.
CAM I’W GYMRYD: Aelodau’r grŵp i nodi eu blaenoriaethau o ran Iechyd Meddwl mewn neges e-bost at SJ cyn y cyfarfod nesaf (s.jones@mind.org.uk)
4. Cloi’r cyfarfod
Diolchodd KS i'r Grŵp am drafodaeth ddefnyddiol a chraff. Nododd fod y cyfarfod nesaf yn gyfle i ofyn cwestiynau am y Rhaglen Lywodraethu nesaf yn dilyn penodiad y Prif Weinidog newydd.
Gofynnodd Abigail Rees (AB) a ellid ychwanegu eitem ar y strategaethau at agenda'r cyfarfod nesaf hefyd. Cytunodd y Grŵp ar hyn.
Daeth y cyfarfod i ben am 13.30.